Panel Member 28 views

Panel Member

Job Type : Permanent, Full Time

Salary : £200/day Per panel member

Up to 12 days per year – plus training and additional events

£200 per Panel Meeting

TACT is the UK’s largest fostering charity and has been providing loving families for vulnerable children and young people across the country for over 25 years. Our reputation and growth rests upon our strength in providing successful placements. As a charity, we do not have shareholders who receive profits – we invest all of our surplus income into service, staff, carers, and children’s development.

Our vision is to provide better lives for our children and young people.

We are currently looking for panel members to be part of our Fostering Panel in Wales. We are specifically seeking fostering panel members with backgrounds respectively in healthcare and education. We particularly welcome applications from Welsh-speakers and people from black and minority ethnic backgrounds.

The successful applicants must be IT literate, as documentation is shared at online meetings on a monthly basis. The Panel meets using Microsoft Teams on the last Tuesday each month, but occasionally additional meetings may also be scheduled, depending on business needs.

The successful candidate may need to travel to Wales area to attend an annual panel business day in person and other occasional meetings and training

In line with our values, we expect fostering panel members to ensure that all decisions are made with regard to the interest of 'children in care', foster carers, and the community in which they live. We welcome candidates who are passionate about the success of fostering services and the outcomes for our children and young people.

Successful candidates will be responsible for the following Fostering Panel Member duties: –

Reading the meeting documents carefully before the meeting and to attend the meeting prepared to raise issues and to contribute to the panel discussion.

Participating in the making of a recommendations, on each case, drawing on both personal and professional knowledge and experience.

To attend at least 75 per cent of meetings of the panel.

To be prepared to attend additional panels, if possible, if requested.

To participate, with other panel members, in advising on policy and procedural matters as required.

To address diversity issues and promote anti-discriminatory practice.

To safeguard the confidentiality of all panel papers and panel discussions.

To participate in panel induction and in panel training, which will be at least one day per year.

To participate constructively in the annual review of their panel membership, if this is an agency requirement.

A Standard DBS check clearance is required for these roles. This check will be undertaken by TACT on your behalf. You will also be required to have professional membership of a relevant body if you are currently a practicing social worker or similarly qualified professional.

Closing Date: Midnight on Monday 9th October 2023

Interview Date: Tuesday 17th October 2023

TACT reserve the right to close the vacancy once we have received sufficient applications, so we advise you to submit your application as early as possible to prevent disappointment.

Safeguarding is everyone’s business and TACT believe that only the people with the right skills and values should work in social work. As part of TACT’s commitment to safeguarding, we properly examine the skills, experience, qualifications, and values of potential staff in relation to our work with vulnerable young children. We use rigorous and consistent recruitment approaches to help safeguard TACT’s young people. All our staff are expected to work in line with TACT’s safeguarding policies.

TACT does not accept unsolicited CVs from external recruitment agencies nor accept the fees associated with them.

Mae TACT Cymru yn chwilio am Aelodau Panel Maethu newydd sydd â phrofiad a chefndir ym maes addysg ac iechyd.

Hyd at 12 diwrnod y flwyddyn – yn ogystal â hyfforddiant a digwyddiadau ychwanegol

£200 fesul Cyfarfod Panel

TACT yw elusen faethu fwyaf y DU ac mae wedi bod yn darparu teuluoedd cariadus i blant a phobl ifanc agored i niwed ledled y wlad ers dros 25 mlynedd. Mae ein henw da a’n twf yn dibynnu ar ein cryfder wrth ddarparu lleoliadau llwyddiannus. Fel elusen, nid oes gennym gyfranddalwyr sy’n derbyn elw – rydym yn buddsoddi ein holl incwm dros ben yn ein gwasanaethau, staff, gofalwyr a datblygiad plant.

Ein gweledigaeth yw darparu gwell bywydau i’n plant a’n pobl ifanc.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am aelodau panel i fod yn rhan o'n Panel Maethu yng Nghymru. Rydym yn chwilio’n benodol am aelodau panel maethu sydd â chefndiroedd ym maes gofal iechyd ac addysg. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan siaradwyr Cymraeg a phobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig.

Rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn hyddysg mewn TG, gan fod dogfennau’n cael eu rhannu mewn cyfarfodydd ar-lein bob mis. Mae’r Panel yn cwrdd gan ddefnyddio Microsoft Teams ar ddydd Mawrth diwethaf pob mis, ond weithiau gall cyfarfodydd ychwanegol gael eu trefnu hefyd, yn dibynnu ar anghenion busnes.

Mae’n bosibl y bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus deithio i wahanol leoedd yng Nghymru i fynychu diwrnod busnes panel blynyddol yn bersonol a chyfarfodydd a hyfforddiant achlysurol eraill.

Yn unol â’n gwerthoedd, rydym yn disgwyl i aelodau’r panel maethu sicrhau bod pob penderfyniad yn cael ei wneud mewn perthynas â buddiannau ‘plant mewn gofal’, gofalwyr maeth, a’r gymuned y maent yn byw ynddi. Rydym ni’n croesawu ymgeiswyr sy’n frwd dros lwyddiant gwasanaethau maethu a’r canlyniadau i’n plant a’n pobl ifanc.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ddyletswyddau canlynol Aelodau’r Panel Maethu:

Darllen dogfennau’r cyfarfod yn ofalus cyn y cyfarfod, a mynychu’r cyfarfod gan fod yn barod i godi materion a chyfrannu at drafodaeth y panel.

Cymryd rhan yn y gwaith o wneud argymhellion, ar bob achos, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad personol a phroffesiynol.

Mynychu o leiaf 75% o gyfarfodydd y panel.

Bod yn barod i fynychu paneli ychwanegol, os yn bosibl, os gofynnir am hynny.

Cymryd rhan, gydag aelodau eraill y panel, mewn gwaith ymgynghori ar faterion polisi a gweithdrefnau yn ôl yr angen.

Rhoi sylw i faterion sy’n ymwneud ag amrywiaeth a hyrwyddo ymarfer gwrth-wahaniaethol.

Diogelu cyfrinachedd holl bapurau’r panel a thrafodaethau’r panel.

Cymryd rhan mewn sesiynau ymsefydlu panel a hyfforddiant panel, a fydd o leiaf un diwrnod y flwyddyn.

Cymryd rhan adeiladol yn yr adolygiad blynyddol o aelodaeth y panel, os yw hyn yn ofyniad gan yr asiantaeth.

Mae angen gwiriad safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y rolau hyn. Bydd y gwiriad hwn yn cael ei gynnal gan TACT ar eich rhan. Bydd gofyn i chi hefyd fod yn aelod proffesiynol o gorff perthnasol os ydych chi ar hyn o bryd yn weithiwr cymdeithasol sy’n ymarfer neu’n weithiwr proffesiynol sydd wedi cymhwyso yn yr un modd.

Dyddiad cau: Hanner nos, dydd Llun 9 Hydref 2023

Dyddiad y cyfweliad: Dydd Mawrth 17 Hydref 2023

Mae TACT yn cadw’r hawl i newid dyddiad cau’r swydd ar ôl i ni gael digon o geisiadau, felly rydym yn eich cynghori i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael eich siomi.

Mae diogelu yn fusnes i bawb ac mae TACT yn credu mai dim ond y bobl sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd iawn ddylai weithio ym maes gofal cymdeithasol. Fel rhan o ymrwymiad TACT i ddiogelu, rydym yn archwilio sgiliau, profiad, cymwysterau a gwerthoedd darpar staff mewn perthynas â’n gwaith gyda phlant ifanc agored i niwed. Rydym yn defnyddio dulliau recriwtio trwyadl a chyson i helpu i ddiogelu pobl ifanc TACT. Disgwylir i’n holl staff weithio yn unol â pholisïau diogelu TACT.

Nid yw TACT yn derbyn CVs digymell gan asiantaethau recriwtio allanol nac yn derbyn y ffioedd sy’n gysylltiedig â nhw

Jobs by CV-Library 

More Information

Share this job